Welcome – Cymraeg

Nod SHRN yw gwella iechyd a lles pobl ifanc yng Nghymru.

Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) yn bartneriaeth polisi-ymarfer-ymchwil rhwng Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Phrifysgol Caerdydd a sefydlwyd yn 2013. Nod SHRN yw gwella iechyd a lles pobl ifanc yng Nghymru drwy weithio gydag ysgolion cynradd a addysg uwchradd i gynhyrchu a defnyddio tystiolaeth o ansawdd da ar gyfer gwella iechyd. Mae hyn yn cynnwys arolygon lefel myfyrwyr ac ysgol, gan gasglu metrigau iechyd a lles allweddol. Cyfeirir at y metrigau hyn mewn dros 30 o bolisïau a strategaethau cenedlaethol, gan gynnwys y Dull-Ysgol Gyfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Lles (2021) ac Adroddiad Iach a Hapus Estyn (2019).

Croeso i SHRN

Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn gonglfaen o ran darparu data a thystiolaeth amhrisiadwy sy’n llunio polisi ac ymarfer. Yn sgil ymestyn i ysgolion cynradd, mae’r Rhwydwaith yn parhau i gynnig un o’r setiau data mwyaf cynhwysfawr yn y DU. Mae’r data hanfodol hwn yn ategu polisïau iechyd meddwl ac addysg Llywodraeth Cymru ac mae’n gyrru gwaith mawr ei effaith yn y sector addysg ehangach ac mewn academia. Mae’r Rhwydwaith yn chwarae rhan flaenllaw mewn gweddnewid y tirlun addysg, gan sicrhau lles ein plant a dyfodol ein cymunedau.”

Lynne Neagle AS

How we improve the health and
well-being of young people

Darparu data iechyd a lles cadarn i ysgolion a rhanddeiliaid cenedlaethol/rhanbarthol


Darperir adroddiadau adborth SHRN pwrpasol gyda meincnodau cenedlaethol i ysgolion ac awdurdodau lleol er mwyn galluogi hunanwerthuso a chynllunio gweithredu sy’n seiliedig ar ddata.

Galluogi cynllunio gweithredu cydgysylltiedig, gwerthuso ac adborth ar draws addysg gynradd ac uwchradd


Mae ehangu SHRN i ysgolion cynradd yn golygu y gall data lywio’r broses o drosglwyddo dysgwyr o leoliadau cynradd i uwchradd, gyda mesurau wedi’u dilysu, sy’n briodol i’w hoedran sy’n galluogi dealltwriaeth o sut mae iechyd, lles ac ymddygiad yn datblygu ar draws arolygon.

Cynhyrchu tystiolaeth ymchwil newydd ar y ffordd orau o wella iechyd a lles pobl ifanc yn yr ysgol


Mae rhwydwaith SHRN o ‘ysgolion parod ar gyfer ymchwil’ yn hwyluso cyd-gynhyrchu a gwerthuso ymyriadau ysgol gyfan megis y dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol.

Gweithio gyda llunwyr polisi ac ymarferwyr o addysg ac iechyd i gydgynhyrchu tystiolaeth ymchwil iechyd a lles o ansawdd uchel yn yr ysgol ar gyfer Cymru


Mae SHRN, sy’n seilwaith cenedlaethol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn darparu data allweddol ar draws y system ysgolion i nodi beth sy’n gweithio i wella iechyd a lles dysgwyr.

Explore

Card image

Ynglŷn â’n harolwg

Mae Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn cynnig adnoddau hanfodol i ysgolion i wella iechyd a lles dysgwyr ym mhob cwr o’r wlad.

Ein harolwg

Card image

Dewch yn aelod

Drwy ddod yn rhan o’r rhwydwaith, gall ysgolion fanteisio ar adnoddau, cydweithio â chyfoedion, a chreu amgylchedd dysgu iachach a mwy cefnogol yn y pen draw.

Ymochnogo yn aelod

Card image

Rhannwch eich stori

Mae’r rhwydwaith yn cydweithio gydag ysgolion i ddarparu’r data, y wybodaeth a’r cymorth angenrheidiol i wella iechyd a lles dysgwyr Cymru..

Rhanwch eich stori

Card image

Canllaw Rhieni a Gofalwyr i Arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

Mae’r dudalen hon ar eich cyfer chi – rhieni a gofalwyr plant sy’n cymryd rhan yn Arolwg Iechyd a Lles Ysgolion y Rhwydwaith. Bydd ysgolion yn anfon gwybodaeth atoch chi am yr arolwg a sut y caiff y data ei reoli a’i ddefnyddio bythefnos cyn i’ch plentyn gael gwahoddiad i gymryd rhan. Yn y cyfamser, gallwch ddod o hyd i fanylion ychwanegol am gynnydd ein harolwg a’n prosesau rheoli data yma.

Dysgwch fwy

View all

Partneriaid

Rydyn ni’n falch o fod yn gysylltiedig â’r partneriaid allweddol canlynol: