Ein Hanes

Rydym yn hynod falch o’r gwaith rydym ni’n ei wneud a’n cyflawniadau. Ers ein sefydlu yn 2013, rydym wedi tyfu’n rhwydwaith cynhwysfawr sy’n cysylltu ysgolion ag ymchwilwyr, llunwyr polisi ac ymarferwyr iechyd. Ein cenhadaeth yw hyrwyddo gwelliannau i iechyd a lles, seiliedig ar dystiolaeth, mewn lleoliadau ysgol ar draws Cymru, gan sicrhau bod gan bob plentyn gyfle i ffynnu.

Dyma olwg fanylach ar ein hanes:

2013: Y Blynyddoedd Sylfaen a’r Blynyddoedd Cynnar

Dechreuodd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion gyda chyllid gan bartneriaeth drwy’r Cyngor Ymchwil Meddygol ac fe’i gweithredwyd fel rhan o astudiaeth Ymddygiad Iechyd mewn Plant Ysgol (HBSC) Sefydliad Iechyd y Byd (WHO). Fe wnaeth y bartneriaeth hon gynnwys Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Caerdydd.

I ddechrau, gwahoddwyd holl ysgolion uwchradd HBSC yng Nghymru i ymuno, gyda 69 ysgol yn cymryd rhan. Nod y rhwydwaith oedd gweld a fyddai’n ymarferol ac yn cael ei groesawu, casglu tystiolaeth yn amlach, a defnyddio’r wybodaeth hon i wella polisïau ac ymarfer iechyd mewn ysgolion. Prif nod y Rhwydwaith yw cysylltu ysgolion ag ymchwilwyr academaidd, llunwyr polisi ac ymarferwyr iechyd i hybu gwelliannau i iechyd, seiliedig ar dystiolaeth, mewn lleoliadau ysgol. Mae arolwg HBSC, a gynhelir bob pedair blynedd, wedi bod yn rhan barhaus o’r ymdrech hon yng Nghymru.

2015-2016: Ehangu mewn Ysgolion Uwchradd

Yn ystod y cyfnod hwn, tyfodd y rhwydwaith yn sylweddol i gynnwys 115 ysgol uwchradd a sefydlodd ei olion troed rhanbarthol cyntaf, gyda chefnogaeth cyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Caniataodd yr ehangu hwn am gasglu data iechyd a lles ar draws fwy o ysgolion uwchradd bob dwy flynedd.

Mae’r arolwg yn seiliedig ar fframwaith HBSC Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), gan sicrhau bod y data a gesglir yn berthnasol ac yn gymaradwy yn rhyngwladol bob pedair blynedd. Hefyd, casglodd y rhwydwaith Holiadur Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith, ar sail arolwg HBSC, ond mae’n ddigon hyblyg i fesur polisïau a gweithdrefnau newydd. Mae hyn yn helpu ymchwilwyr i ddeall sut mae polisïau ysgol yn effeithio ar iechyd dysgwyr ac mae’n helpu llunwyr polisi ac ymarferwyr i weld pa mor dda mae’r polisïau hyn yn cael eu mabwysiadu a’u rhoi ar waith.

2017: Cwblhau Integreiddio Ysgolion Uwchradd

Agorwyd recriwtio i bob ysgol uwchradd yng Nghymru, gan arwain at gynnwys pob ysgol uwchradd arferol yn y rhwydwaith. Roedd hwn yn gam mawr tuag at ddwyn casglu data iechyd a lles at ei gilydd ar draws Cymru.

Yn 2018, derbyniodd y Rhwydwaith y Wobr Arloesedd mewn Gofal Iechyd yng Ngwobrau Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd. Roedd hyn yn gydnabyddiaeth o’r cydweithio a gyflawnwyd gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

2020: Ehangu i Ysgolion Cynradd

Darparodd Llywodraeth Cymru gyllid ar gyfer gwaith i ddatblygu model i ehangu’r Rhwydwaith i ysgolion cynradd ac i werthuso nifer o faterion allweddol yn gysylltiedig â hyfywedd. Fe wnaeth hyn gynnwys arolwg cenedlaethol o ddisgyblion Blwyddyn 6, gyda samplau ychwanegol gan awdurdodau lleol, i adrodd ar les disgyblion ar lefelau ysgol, awdurdod lleol a chenedlaethol.

2023: Sylw Cynhwysfawr i Ysgolion Prif Ffrwd 

Mae pob ysgol uwchradd yn aelodau o’r Rhwydwaith, gyda thros 100,000 o ddysgwyr yn cymryd rhan yng nghasgliad data 2023 ac mae dros 50% o ysgolion cynradd wedi ymuno â ni ym mlwyddyn gyntaf yr arolwg ysgolion cynradd. Mae eu cynnwys fel hyn yn ein helpu i ddeall newidiadau i iechyd a lles o blentyndod i’r glasoed yn well. Hefyd, mae’n cefnogi dysgwyr â phontio pwysig, fel symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd.

2023: Dangosfwrdd Data Canolog

Mae lansio Dangosfwrdd Data Ysgolion y Rhwydwaith gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi mynediad i ddata’r Rhwydwaith i fwy o bobl. Mae hyn yn helpu i wneud penderfyniadau gwell ar bolisi ac ymarfer, gan sicrhau bod gweithredoedd a phenderfyniadau ar draws Cymru wedi’u seilio ar dystiolaeth gadarn.

Dangosfwrdd Data Ysgolion Uwchradd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (yn lansio ddiwedd 2026)

Mae Dangosfwrdd Data Lefel Ysgol y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) yn cael ei ddatblygu i helpu ysgolion uwchradd i wneud rhagor o ddefnydd o’u data SHRN a chryfhau’r broses o wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Gan ddatblygu prosesau adrodd sefydledig y Rhwydwaith, bydd y dangosfwrdd yn rhoi mynediad gwell i ysgolion sy’n cymryd rhan at eu data iechyd a lles drwy blatfform rhyngweithiol sy’n hawdd ei ddefnyddio.

Mae’r dangosfwrdd wedi’i gynllunio i helpu ysgolion i ymdrin â’u data a’i ddehongli’n fwy effeithiol, adnabod blaenoriaethau i’w gweithredu, monitro cynnydd dros amser, a chefnogi dulliau ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a lles. Mae’r datblygiad wedi’i arwain gan waith ar y cyd ag ysgolion a rhanddeiliaid allweddol i sicrhau bod yr offeryn yn diwallu anghenion ymarferwyr addysg a gwneuthurwyr penderfyniadau.

Cefnogi Ysgolion gan ddefnyddio Data a Thystiolaeth: Mae’r Rhwydwaith yn parhau i gefnogi ysgolion ledled Cymru drwy gynnig data iechyd a lles o safon, tystiolaeth ymchwil ac adnoddau ymarferol sy’n helpu i droi canfyddiadau’n weithredoedd. Ochr yn ochr ag adrodd ar lefel ysgolion, mae’r Rhwydwaith yn ehangu’r ffyrdd y gall ysgolion gyrchu eu data ac ymgysylltu ag ef, gan helpu i gryfhau gweithgarwch cynllunio, gwerthuso a gwella.

Edrych tua’r dyfodol

Wrth i’r Rhwydwaith barhau i ehangu, ein ffocws yw cryfhau’r defnydd o dystiolaeth i wella iechyd a lles plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae’r blaenoriaethau’n cynnwys gwella data ac offer adrodd ymhellach, cefnogi ymgysylltiad mewn addysg gynradd ac uwchradd, ymestyn gwaith gydag ystod ehangach o leoliadau addysg, a meithrin cydweithio rhwng ysgolion, llunwyr polisïau, ymarferwyr ac ymchwilwyr i sicrhau’r effaith fwyaf posibl

Cadwch mewn cysylltiad

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar Ddangosfwrdd Data Lefel Ysgol SHRN, gweithgareddau’r rhwydwaith, allbynnau ymchwil ac adnoddau, cofrestrwch ar gyfer e-newyddion y Rhwydwaith a dilynwch ein newyddion a’n datblygiadau diweddaraf ar y wefan.