Mewnwelediadau SHRN ar gyfer Dysgu a Llesiant Iachach
Yn y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (y Rhwydwaith), rydym yn ymrwymo i wella iechyd a lles plant a phobl ifanc ar draws Cymru. Mae’r Rhwydwaith, a sefydlwyd fel ymdrech gydweithredol rhwng ysgolion, ymchwilwyr academaidd a llunwyr polisi iechyd, yn canolbwyntio ar gynhyrchu tystiolaeth o ansawdd uchel i lywio strategaethau gwella iechyd a lles mewn lleoliadau addysgol.
Mae ein hadroddiadau’n cynnig cipolygon gwerthfawr a gasglwyd o arolygon helaeth a gynhelir mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae’r arolygon hyn yn canolbwyntio ar fetrigau iechyd a lles hanfodol, gan ddarparu’r data y mae ei angen i wneud penderfyniadau gwybodus. Trwy fanteisio ar y wybodaeth hon, ein nod yw meithrin amgylcheddau iachach sy’n cefnogi lles a llwyddiant pob dysgwr. Trwy ymgysylltu â 100% o ysgolion uwchradd a thros 50% o ysgolion cynradd yng Nghymru, mae’r Rhwydwaith nid yn unig yn meincnodi data ond hefyd yn helpu i weithredu ymyriadau iechyd a lles effeithiol trwy gydol teithiau addysgol dysgwyr.


Data Rhanbarthol a Chenedlaethol SHRN
Archwilio Proffiliau Data Rhanbarthol a Chenedlaethol SHRN

Adroddiadau Cenedlaethol SHRN
Mae SHRN yn cyhoeddi adroddiadau cenedlaethol sy’n darparu trosolwg o iechyd a lles plant a phobl ifanc ledled Cymru. Mae’r adroddiadau hyn yn tynnu ar ddata o Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr ac yn amlygu tueddiadau allweddol mewn meysydd fel iechyd meddwl, gweithgarwch corfforol, defnyddio sylweddau, a pherthnasoedd cymdeithasol. Cynhyrchwyd yr adroddiadau i lywio polisi, ymarfer, ac ymchwil, gan gynnig tystiolaeth i gefnogi gwelliannau mewn addysg ac iechyd cyhoeddus. Mae’r holl ganfyddiadau wedi’u hanonymeiddio ac yn cael eu cyflwyno ar lefel genedlaethol er mwyn diogelu cyfrinachedd.
Gallwch gael mynediad at Adroddiadau Cenedlaethol diweddaraf SHRN isod.

Dangosfyrddau Iechyd a Lles Ysgolion Cynradd ac Uwchradd SHRN
O Hydref 2023 ymlaen, ni fydd y Rhwydwaith yn cyhoeddi adroddiadau data ysgolion cynradd ac uwchradd mwyach oherwydd bydd yr holl ddata ar gael ar Dangosfyrddau Iechyd a Lles Ysgolion Cynradd ac Uwchradd SHRN

